A graphic highlighting the importance of the UK General Election for women's health equality, particularly in Wales. The text directs to ftwww.org.uk for more information. Icons include a ballot box and megaphone.

Ydy Cymru’n Cyfrif? Pam mae Etholiad Cyffredinol y DU yn Bwysig i Gydraddoldeb Iechyd Menywod – a pham mae Lleisiau Cymru yn Cyfrif

Blog FTWW A hithau bron yn ddiwrnod Etholiad Cyffredinol y DU, efallai fod llawer o ddilynwyr FTWW yn meddwl, gan fod y GIG wedi’i ddatganoli yng Nghymru, na all unrhyw lywodraeth newydd yn San Steffan wneud llawer i fynd i’r afael â’r annhegwch iechyd sy’n wynebu’r rhai rydyn ni’n eu cefnogi. Maen nhw’n iawn i raddau wrth gwrs – mae etholiadau’r Senedd yn eithriadol o bwysig i ni fel sefydliad sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb iechyd menywod yng Nghymru. Ond nid yw hynny’n golygu nad oes gan Lywodraeth y DU ddylanwad mawr iawn ar ein profiadau iechyd yn fwy cyffredinol. Mae’r…

Read More

An illustration of a uterus, with text reading breaking the silence on gynaecological cancers - and beyond! FTWW statement

Rhoi Sylw i Ganserau Gynaecolegol – a mwy!

Datganiad FTWW ar Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i Ganser Gynaecolegol a dadl yn y Cyfarfod Llawn (15/05/24) Rhoi Sylw i Ganserau Gynaecolegol – a mwy! Ar ôl cyfrannu’n helaeth at yr ymchwiliad diweddar i ganserau gynaecolegol a gynhaliwyd gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, roedd FTWW yn awyddus i ddarllen ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad dilynol y Pwyllgor, ‘Heb lais: Taith Menywod Trwy Ganser Gynaecolegol‘ Er bod mwyafrif helaeth ei argymhellion wedi’u derbyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, gwrthodwyd rhai – ac, felly, roedd y ddadl yn y…

Read More

Eich Cyfle i Ddysgu Mwy am y Menopos yn y Gweithle!

  Rydyn ni’n falch iawn y bydd Hyrwyddwyr Menopos FTWW, Lisa a Lara, yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Menopos yn y Gweithle Cymru Policy Insight Wales ar 24 Ebrill ym Marriott Caerdydd. Byddan nhw’n trafod pynciau fel pwysigrwydd diwylliant yn y gweithle, addasiadau rhesymol, a’r angen i gydnabod y gall y menopos effeithio ar weithwyr o bob oed, ac ochr yn ochr â chyflyrau iechyd eraill. Bydd y digwyddiad yn helpu cyflogwyr i ddeall yn well sut i gefnogi, gwerthfawrogi a chadw’r rhan hanfodol hon o’r gweithlu. Gallwch weld yr Agenda yma: https://www.policyinsight.wales/conferences-and-events/menopause-in-the-workplace-wales-conference/agenda/ I danysgrifwyr cylchlythyr FTWW, mae gostyngiad o…

Read More

Endometriosis Cymru a teclyn adrodd am symptomau

Os ydych chi’n byw yng Nghymru a’ch bod wedi cael diagnosis o endometriosis, neu os oes gennych chi symptomau rydych chi’n amau mai endometriosis ydyn nhw, gall Endometriosis Cymru helpu.  Mae gwefan endometriosis.cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu chi i reoli symptomau ac i lywio bywyd gyda’r cyflwr. Mae hefyd yn cynnig cyngor a theclynnau defnyddiol i rieni, gofalwyr, addysgwyr a chyflogwyr. Mae modd i unrhyw un ddefnyddio’r wybodaeth, yr adnoddau a’r teclynnau ar y wefan – does dim rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru! Prosiect cydweithredol yw Endometriosis Cymru, a gychwynnwyd yn 2019…

Read More

two rebel bodies paperbacks lie next to each other on a red background.

Mae Rebel Bodies ar gael fel llyfr clawr meddal!

Mae’n bleser gennym roi gwybod i chi bod llyfr gwych Sarah Graham, Rebel Bodies: A Guide to the Gender Health Gap Revolution, bellach ar gael mewn clawr meddal! Efallai eich bod yn cofio i FTWW gael ei gynnwys fel astudiaeth achos a bellach mae’n rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb mewn materion iechyd menywod croestoriadol ei ddarllen, felly cofiwch rannu’r neges!  Ar hyn o bryd, mae Sarah’n rhoi cyfle i chi ennill copi ar ei thudalen Instagram ond os oes gennych chi gopi’n barod, beth am daro golwg ar ei hawgrymiadau gorau i ddarllenwyr Rebel ar Bookshop.org?  

Read More

a photo of Becci and the Piece of Mind podcast logo.

PMDD – y cysylltiad cudd rhwng hormonau ac iechyd meddwl

Ym mhennod 11 y podlediad Piece of Mind clywyd gan Becci Smart, un o aelodau FTWW, a oedd yn trafod realiti byw gydag Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) a’r ymchwil sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl sy’n awyddus i ddysgu mwy i wella diagnosis a thriniaethau.  Bydd deiseb Becci yn galw ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru i wneud PMDD yn fodiwl Datblygiad Proffesiynol Parhaus gorfodol mewn addysgu meddygol ôl-raddedig yn dod i ben ar 1 Chwefror, felly cofiwch ei llofnodi a’i rhannu!  

Read More

The Senedd Health and Social Care Committee logo

Ymchwiliad y Senedd – Cefnogi Pobl â Chyflyrau Cronig: Aelodau FTWW yn cael dweud eu dweud

Efallai eich bod yn cofio i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd lansio eu hymchwiliad y llynedd i gefnogi pobl â chyflyrau cronig. Dangosodd y cam ymgynghori neges gyffredinol glir ynghylch yr angen i wella gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a rhoi’r gorau i ganolbwyntio ar gyflyrau unigol ar eu pen eu hunain. Mae cam dau yr ymchwiliad yn cynnwys casglu tystiolaeth, a’r mis hwn, aeth aelodau grŵp cymorth FTWW i ddau grŵp ffocws gyda thîm ymgysylltu â dinasyddion y Senedd, lle darparwyd tystiolaeth bwerus ynghylch eu profiadau bywyd – a’r hyn maen nhw’n credu y mae…

Read More

The cover of Dee’s book. The image is blue and red cell on a purple background, with the book title in the centre and Dee’s name below.

Lwmp Schroedinger – Dee Dickens

Mae ein Hymddiriedolwyr yn bobl hynod dalentog, a dydi Dee Dickens ddim yn eithriad! Rydym yn falch iawn nid yn unig i’w llongyfarch ar gyhoeddi ei chasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Shroedinger’s Lump, ond hefyd yn diolch iddi am gyfrannu’r elw o werthiant y gyfrol i FTWW a’n ffrindiau yn Love Your Period. Mae casgliad Dee yn trafod eu profiadau o gael mynediad i ofal iechyd ar ôl canfod bod ganddynt ganser y fron, sefyllfa a gafodd ei gymhlethu gan bandemig Covid-19. Gwyddom y bydd nifer yn ein cymuned yn uniaethu â cherddi Dee, felly os hoffech eu darllen – a’n…

Read More

The bilingual TNL Community Fund logo

Arian i Bawb y Loteri yn golygu mwy o Wybodaeth i Ddilynwyr FTWW!

Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod FTWW wedi llwyddo i sicrhau grant Arian i Bawb y Loteri i ddiweddaru ein gwefan a chreu adnoddau newydd y gellir eu lawrlwytho ar gyfer ein cymuned. Rydym yn awyddus i sicrhau bod y wefan yn fwy hygyrch ac yn haws ei defnyddio, gyda chynnwys newydd yn Gymraeg a Saesneg yn cael ei ychwanegu ar yr amrywiol gyflyrau iechyd a materion y mae cynifer o bobl ledled Cymru yn eu hadrodd i ni. Bydd mwy o straeon gan gleifion, gwybodaeth ymarferol am gael mynediad at wasanaethau a chyfle i gael llais, ac amrywiaeth…

Read More

Text reading Women’s Health Wales / Iehcyd Menywod Cymru on a purple background with arrows and equals symbols running through it.

Y diweddaraf am Ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod a Merched GIG Cymru

Yn gynharach y mis hwn fe wnaethom gadeirio Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf Clymblaid Iechyd Menywod Cymru y trydydd sector, lle’r oeddem yn falch o glywed diweddariadau gan Dîm Polisi Iechyd Menywod newydd Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd sicrwydd bod Rhwydwaith Strategol Clinigol Cenedlaethol newydd ar gyfer Iechyd Menywod yn y broses o gael ei sefydlu. Bydd y Rhwydwaith Strategol yn gyfrifol am ddatblygu a darparu Cynllun Iechyd Menywod a Merched 10 mlynedd i Gymru, gan ganolbwyntio ar wasanaethau’r GIG. Fodd bynnag, gan fod anghydraddoldebau iechyd rhyw yn ymestyn y tu hwnt i hyn – i addysg, hyfforddiant, y gweithle, a mwy –…

Read More

Laura, Becci and Carla, pictured during their speeches at the conference.

Cynnal Cynhadledd Menopos Cymru Gyfan yn Wrecsam!

Ac roeddem yn falch iawn o gael ein gwahodd i drefnu gwahoddiad i gleifion ddod i siarad yn y digwyddiad. Diolch i Laura, Becci, a Carla (yn y llun, uchod), gwirfoddolwyr FTWW a roddodd sgyrsiau hynod bwerus a gwybodus ar symptomau Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) a Methiant Ofarïaidd Cynamserol (POI) (y cyfeirir ato hefyd fel ‘menopos cynnar’) yn ail Gynhadledd Menopos flynyddol Cymru Gyfan yn gynharach y mis hwn. Roedd eu cyflwyniadau nid yn unig yn hynod o deimladwy, ond hefyd yn llawn gwybodaeth i glinigwyr a oedd yn bresennol ynglŷn â sut i ganfod problemau a chefnogi cleifion….

Read More