EndoMarch Cymru Caerdydd 2017


#EndoMarchCymru Caerdydd 2017

EICH GALW I WEITHREDU DROS IECHYD MERCHED

Hoffai FTWW ddiolch i Em am ysgrifennu am ei phrofiad o EndoMarch 2017. Mae Em yn gefnogol iawn o waith FTWW. Mae hi’n byw yng Ngogledd Cymru.

Ein graffeg a phosteri gwych EndoMarch, gyda diolch i www.madamadari.com.

“Mae gen i afiechyd. Nid yw’r afiechyd yn un adnabyddus ond mae wedi cael effaith aruthrol ar ansawdd fy mywyd. Mae gan filoedd o ferched ar draws Cymru yr afiechyd yma a maent yn dioddef o ganlyniad. Er hyn, mae llawer iawn o gamddealltwriaeth ac ychydig o wybodaeth pendant am yr afiechyd. Nid oes llawer o ymchwil penodol, gwybodaeth na hyfforddiant ar gael i’r doctoriaid a’r llawfeddygon sy’n ein trin gyda chyffuriau cryf a llawdriniaethau, heb sôn am wybodaeth i’r cyhoedd.

‘Yn 2016 roedd endometriosis yn cael effaith erchyll arnaf. Roedd fy opsiynau at gyfer gwellhad yn gyfyngedig dros ben, a doedd gen i fawr o ffydd yn y rhai a oedd yn fy nhrin. Yn ffodus, cefais hyd i fudiad trydydd sector o’r enw FTWW. Cysylltais a’r mudiad yn y gobaith y byddai rhywyn, o’r diwedd, yn medru fy help, neu o leiaf deall fy sefyllfa.

‘Mae FTWW yn fudiad iechyd merched a chydraddoldeb trydydd sector hollol wirfoddol. Mae’n fy nghefnogi i a channoedd o ferched yng Nghymru.

‘O ganlyniad i’w gwaith di-flino maent, yn barod, wedi rhoi pwysau ar lywodraeth Cymru i newid strategaeth ar gyfer cleifion endometriosis.

‘Ni allaf fynegi faint mae FTWW wedi fy helpu. Mae perthyn i’r grwp yma o ymgyrchwyr a goroeswyr, gallu rhannu fy stori, cefnogi eraill a chael fy nghefnogi, a gwybod fod rhywyn yn ymladd drosof, yn amhrisiadwy. Teimlais fy mod yn ymladd yn y tywyllwch, ond rwan rwyn ymladd gyda byddin o ryfelwyr melyn llachar. Mae’r frwydyr yn parhau er na dylai fod angen brwydro. Mae’n rhaid i ni godi ymwybyddiaeth. Mae llawer o waith o’n blaen.

Hwdi Tîm Cymru.

‘Ar Fawrth 25ain, 2017, digwyddodd EndoMarches ar draws y byd. O Ganada i’r Almaen, Tsieina i Frasil gorymdeithiodd merched a’u cefnogwyr i fynu cyfiawnder a thriniaeth deg i ddioddefwyr endometriosis.

Capten Tîm Cymru, Niki, yn ein hybu a’i araith gyffroes!

‘Trefnwyd EndoMarch Byd-eang Cymru yng Nghaerdydd gan Nicola Dally. Cefnogwyd y digwyddiad gan Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething ac Aelod y Cynulliad, Hefin David.

‘Darparwyd baneri a balwns melyn llachar ymusg y gorymdeithwyr. Hefyd cawsom lond llaw yr un o daflenni gwybodaeth am endometriosis i ddarparu i’r cyhoedd ar ein taith *. Hefyd, trefnwyd bws mini o Ogledd Cymru i ferched y gogledd drafeilio am ddeg awr mewn un diwrnod i gefnogi’r orymdaith! Dyna ddangos pa mor benderfynnol yw’r merched yma.

Rhai o’r baneri a’r placardiau anhygoel.

 

‘Wedi ein ‘arfogi’ gyda balwns, taflenni a baneri, ymunais i, gyda fy nheulu, â channoedd o ferched a’u cefnogwyr, i orymdeithio dwy filltir o ganol y ddinas at y Senedd yn y Bae.

‘Roedd fy ngŵr mor awyddus i godi sylw am yr achos fel y gwisgodd wisg draig goch yn ystod yr orymdaith gyfan! Ar ddiwedd yr orymdaith cawsom ein croesawu y tu allan i’r Senedd gan y Treharris Choir of Light ac yna cafwyd cacen arbennig gan Annie Thomas, aelod FTWW.

 

 

 

Em a’i theulu!

‘Er fy mod wedi cyfarfod nifer o aelodau FTWW yng Ngogeldd Cymru, nid oeddwn yn adnabod nifer o’r merched a oedd yng Nghaerdydd. Erbyn diwedd yr orymdaith roeddwn wedi gwneud ffrindiau newydd a roeddem wedi rhannu ein profiadau â’n gilydd. Nid oeddwn yn teimlo’n ofnys mwyach. Nid oeddwn yn teimlo’n unig. Erbyn diwedd y dydd roeddwn wedi colli fy llais ar ôl siarad efo cyn gymaint o aelodau o’r cyhoedd a darparu llond lle o daflenni gwybodaeth. Mae dioddefwyr endometriosis yn amal yn teimlo’n unig ac yn ddi-rym. Rhoddodd EndoMarch y cyfle i ni deimlo yn bŵerus trwy godi llais unedig i godi ymwybyddiaeth. Teimlais bod gobaith.

 

 

 

Gwyliwch y cyffro yma!

 

‘I nifer ohonom, mae’r niwed a achoswyd gan endometriosis, a’r triniaeth, yn barhaol. Mae gormod o’n amser yn cael ei wastraffu mewn pryder ac ofn. Amser yn cael ei golli yn gwella am ddyddiau, wythnosau neu fisoedd ar ôl llawdriniaeth, a ffrwythlondeb yn diflanu.

‘Nid oeddem yn gorymdeithio er lles ein hunain yn unig, ond er lles ein merched, ein chwiorydd, ein nithoedd a phob merch fach y gallwn ei hachub rhag effeithiau yr afiechyd hon.

‘Mae gobaith i rai ohonom. Trwy godi ymwybyddiaeth, gorymdeithio, protestio a trwy fod yn boendod, fe gawn ein clywed. Mae ymdrechion aruthrol ein cynrychiolwyr, Deborah a Nicola, yn golygu fod posib y byddwn yn medru cael triniaeth newydd ac y bydd ymchwil arloesol yn cael ein wneud.

Aneurin Bevan yn cefnogi Tîm Cymru!

 

‘Oherwydd ein bod yn gorymdeithio a gweiddi fe gawn ein clywed. Rwyn edrych ymlaen at EndoMarch Cymru, dydd Sadwrn, Mawrth 24ain, 2018!

Welai chi yno!’

Em

Cafodd EndoMarch Cymru ei gefnogi a’i noddi gan FTWW. Talwyd am y baneri, balwns a’r taflenni gan FTWW trwy roddion a chyfraniadau hael gan eu cefnogwyr ac aelodau y mudiad. Os am wneud cyfraniad tuag at ein ymgyrch i godi ymwybyddiaeth, cewch mwy o wybodaeth YMA.

Cewch weld mwy o uchafbwyntiau’r dydd ar ein Instagram a YouTube. Am y diweddaraf dilynwch ni ar Twitter a Facebook ac edrychwch am #EndoMarchCymru #EndoMarchWales ar gyfryngau cymdeithasol.

Noder: Mae FTWW yn gobeithio hyrwyddo, noddi a chefnogi dwy orymdaith yng Nghymru; un yng Nghaerdydd ac un ar y cyd yng Ngogledd Cymru. Lleoliad penodol i’w drefnu.