Anabledd


A 19-year-old woman with Autism and other A 19 year old autistic woman using her laptop at home for school.

Llun: Sharon McCutcheon ar Unsplash

Rydyn ni’n cyhoeddi’r dudalen hon ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (3 Rhagfyr). Mae llawer o’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi yn byw gyda chyflyrau iechyd cronig hirdymor, ac yn parhau i fod yn anymwybodol o’u hawliau – nid yw pawb yn sylweddoli y gallent gael eu hystyried yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, ‘Mae gennych anabledd os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol.’

I lawer o fenywod, merched a’r rheini sydd wedi cael eu pennu’n fenywod adeg eu geni, ystyrir bod eu salwch a’u cyflyrau cronig yn ‘anweladwy’, ac nid yw eu nam(au) yn cael eu gweld na’u deall gan berthnasau, ffrindiau, athrawon a chyflogwyr. Mae cyflyrau mislifol fel endometriosis ac adenomyosis yn benodol yn cael eu camddeall, gyda’u heffaith gwahanol yn cael ei diystyru fel ‘mislif trwm’. 

Yn ogystal â diffyg ymwybyddiaeth o’u hawliau, nid yw llawer o bobl anabl a phobl â salwch cronig – yn enwedig os daw eu nam yn nes ymlaen mewn bywyd – yn gwybod ble i ddechrau cael gafael ar gymorth a chefnogaeth, a deall eu hawliau o ran cyflogaeth, tai ac ati. Mae FTWW yn aelod o Sefydliad Pobl Anabl Anabledd Cymru, ac rydyn ni’n falch iawn o allu rhannu eu Pecyn Cymorth i Bobl Anabl gyda chi. 

Gallwch lwytho Pecyn Cymorth Anabledd Cymru i Bobl Anabl – Model Cydweithredol yn y Gymraeg, i lawr yma.

Yng Nghymru, rydyn ni’n dilyn y model cymdeithasol o anabledd; nid ein namau na’n cyrff yw’r broblem. Rhwystrau cymdeithasol yw prif achos ein problemau, ac mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys agweddau pobl at anabledd, a rhwystrau corfforol a sefydliadol – gall hyn fod yn unrhyw beth o ddiffyg mynedfeydd neu doiledau hygyrch, i ddiffyg mynediad at ofal iechyd priodol neu rwystrau i addysg a chyflogaeth.

Yn ystod y pandemig, mae effaith Covid-19 wedi cael effaith anghymesur ar bobl anabl. Mae FTWW yn rhan o’r Tasglu Anabledd, a sefydlwyd i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd yn adroddiad Drws ar Glo (gallwch ddarllen ein hymateb i’r adroddiad Drws ar Glo, yma). Ar 30ain Tachwedd, rhoddodd Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, araith yn y Senedd cyn Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl a thynnu sylw at waith y Tasglu Anabledd.

Os hoffech chi gael cymorth gan gymheiriaid, gallwch chwilio am ‘FTWW Cymru’ ar Facebook i ymuno â’n grŵp preifat, lle gallwch ddod o hyd i lawer o bobl anabl a phobl â salwch cronig eraill sy’n deall. Yn ogystal â’r gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig, rydyn ni’n argymell dod o hyd i bobl anabl a phobl sydd â salwch cronig eraill i ymgysylltu â nhw a dysgu ganddyn nhw hefyd! Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau, mae gan Nina Tame, ‘y llys-fam anabl anhepgor ac unigryw’, gyfres wych o argymhellion ar Instagram.

Mae rhagor o adnoddau Anabledd Cymru ar gael yma.