The cover of Dee’s book. The image is blue and red cell on a purple background, with the book title in the centre and Dee’s name below.

Lwmp Schroedinger – Dee Dickens

Mae ein Hymddiriedolwyr yn bobl hynod dalentog, a dydi Dee Dickens ddim yn eithriad! Rydym yn falch iawn nid yn unig i’w llongyfarch ar gyhoeddi ei chasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Shroedinger’s Lump, ond hefyd yn diolch iddi am gyfrannu’r elw o werthiant y gyfrol i FTWW a’n ffrindiau yn Love Your Period. Mae casgliad Dee yn trafod eu profiadau o gael mynediad i ofal iechyd ar ôl canfod bod ganddynt ganser y fron, sefyllfa a gafodd ei gymhlethu gan bandemig Covid-19. Gwyddom y bydd nifer yn ein cymuned yn uniaethu â cherddi Dee, felly os hoffech eu darllen – a’n…

Read More

The bilingual TNL Community Fund logo

Arian i Bawb y Loteri yn golygu mwy o Wybodaeth i Ddilynwyr FTWW!

Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod FTWW wedi llwyddo i sicrhau grant Arian i Bawb y Loteri i ddiweddaru ein gwefan a chreu adnoddau newydd y gellir eu lawrlwytho ar gyfer ein cymuned. Rydym yn awyddus i sicrhau bod y wefan yn fwy hygyrch ac yn haws ei defnyddio, gyda chynnwys newydd yn Gymraeg a Saesneg yn cael ei ychwanegu ar yr amrywiol gyflyrau iechyd a materion y mae cynifer o bobl ledled Cymru yn eu hadrodd i ni. Bydd mwy o straeon gan gleifion, gwybodaeth ymarferol am gael mynediad at wasanaethau a chyfle i gael llais, ac amrywiaeth…

Read More

Text reading Women’s Health Wales / Iehcyd Menywod Cymru on a purple background with arrows and equals symbols running through it.

Y diweddaraf am Ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod a Merched GIG Cymru

Yn gynharach y mis hwn fe wnaethom gadeirio Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf Clymblaid Iechyd Menywod Cymru y trydydd sector, lle’r oeddem yn falch o glywed diweddariadau gan Dîm Polisi Iechyd Menywod newydd Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd sicrwydd bod Rhwydwaith Strategol Clinigol Cenedlaethol newydd ar gyfer Iechyd Menywod yn y broses o gael ei sefydlu. Bydd y Rhwydwaith Strategol yn gyfrifol am ddatblygu a darparu Cynllun Iechyd Menywod a Merched 10 mlynedd i Gymru, gan ganolbwyntio ar wasanaethau’r GIG. Fodd bynnag, gan fod anghydraddoldebau iechyd rhyw yn ymestyn y tu hwnt i hyn – i addysg, hyfforddiant, y gweithle, a mwy –…

Read More

Laura, Becci and Carla, pictured during their speeches at the conference.

Cynnal Cynhadledd Menopos Cymru Gyfan yn Wrecsam!

Ac roeddem yn falch iawn o gael ein gwahodd i drefnu gwahoddiad i gleifion ddod i siarad yn y digwyddiad. Diolch i Laura, Becci, a Carla (yn y llun, uchod), gwirfoddolwyr FTWW a roddodd sgyrsiau hynod bwerus a gwybodus ar symptomau Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) a Methiant Ofarïaidd Cynamserol (POI) (y cyfeirir ato hefyd fel ‘menopos cynnar’) yn ail Gynhadledd Menopos flynyddol Cymru Gyfan yn gynharach y mis hwn. Roedd eu cyflwyniadau nid yn unig yn hynod o deimladwy, ond hefyd yn llawn gwybodaeth i glinigwyr a oedd yn bresennol ynglŷn â sut i ganfod problemau a chefnogi cleifion….

Read More