Cydlynydd Gwirfoddolwyr


Rydym yn Recriwtio!

Diolch i gyllid gan y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Waterloo,

mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) yn awyddus i benodi

Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Mae hon yn swydd ran-amser, 22.5 awr yr wythnos, sy’n talu £16,200 y flwyddyn, yn seiliedig ar gyflog cyfwerth ag amser llawn 37.5 awr yr wythnos o £27K y flwyddyn, gweithio o bell (Cymru)

Mae hi wedi’i hariannu tan 31 Mawrth 2026 gyda’r posibilrwydd o estyniad

Mae’r swydd hon yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus

 

Iawrlwythwch y disgrifiad swydd: Cydlynydd Gwirfoddolwyr

 

FTWW: Triniaeth Deg i Fenywod Cymru yw’r unig elusen yng Nghymru sy’n cael ei harwain gan gleifion a’r unig sefydliad i bobl anabl sydd wedi ymroi i sicrhau cydraddoldeb iechyd i fenywod, merched, a phobl sydd wedi’u cofrestru’n fenywod adeg eu geni.

Ein Gweledigaeth yw Cymru lle mae hawl pawb i iechyd a lles da yn cael ei pharchu a’i gwireddu, gyda phawb yn gallu cael gafael ar y gofal iechyd sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt, heb rwystrau.

Mae rôl y Cydlynydd Elusen yn un newydd i FTWW. Bydd ein hymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod aelodau’n cael eu cefnogi a’u galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu sy’n ehangu cyrhaeddiad y mudiad ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o anghenion iechyd a lles y gymuned ehangach. Byddwch yn allweddol i’n tîm bach, ymroddedig, gan sicrhau bod FTWW mewn sefyllfa dda i gynnal a chynyddu ei gweithgareddau gwirfoddoli.

Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan y rheini sy’n anabl, sy’n byw gyda phroblemau iechyd tymor hir neu sydd â phrofiad ohonynt.

I gael rhagor o wybodaeth am FTWW a’r rôl hon, ewch i’n gwefan, sef: www.ftww.org.uk

I wneud cais, gofynnwn yn garedig am CV cyfredol a datganiad ategol. Yn eich datganiad, dylech egluro pam rydych chi’n meddwl y byddech chi’n addas ar gyfer FTWW a beth fyddech chi’n ei gyflwyno i’n tîm wrth i’r sefydliad dyfu. Byddwn hefyd yn gofyn i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer roi manylion cyswllt dau ganolwr.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau fydd dydd Iau 1 Awst 2024 am 5pm. Cynhelir cyfweliadau dros Microsoft Teams ddydd Mawrth 13 Awst neu o gwmpas y dyddiad hwnnw, gyda golwg ar ddechrau’r rôl cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.

Cysylltwch â ni yn info@ftww.org.uk os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, neu os hoffech chi drafod y rôl ymhellach – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

 

Iawrlwythwch y disgrifiad swydd: Cydlynydd Gwirfoddolwyr