Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen yr adroddiad
Ddydd Sadwrn 28 Mai, sef Diwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Iechyd Menywod, cyhoeddir adroddiad gan glymblaid o elusennau a sefydliadau iechyd yn trafod y ffaith fod canlyniadau iechyd yng Nghymru yn waeth i fenywod nag i ddynion a bod angen gweithredu ar frys i sicrhau bod menywod yn cael gofal a thriniaeth gyfartal.
Mae British Heart Foundation (BHF) Cymru a Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW) yn cydgadeirio Clymblaid Iechyd Menywod Cymru sy’n cynnwys dros chwe deg o elusennau, sefydliadau ymbarél yn y Deyrnas Unedig, Colegau Brenhinol a chynrychiolwyr cleifion. Maent wedi hwyluso’r gwaith o gydgynhyrchu Datganiad Ansawdd sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wella gofal iechyd ledled Cymru i fenywod, merched a rhai a bennwyd yn fenywaidd pan gawsant eu geni (AFAB).
Er mai menywod yw 51% o boblogaeth Cymru, dywed y glymblaid nad yw meddygaeth na gwasanaethau gofal iechyd yn diwallu anghenion cleifion benywaidd, gan arwain at wahaniaethau sylweddol mewn gofal rhwng dynion a menywod – sefyllfa sydd wedi’i gwaethygu gan y pandemig.
Bu Llywodraethau’r Alban a’r Deyrnas Unedig yn ymgynghori ar eu Cynlluniau Iechyd Menywod eu hunain. Cyhoeddwyd un yr Alban ac fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad yn cadarnhau bod y gwaith ar y gweill ar gyfer Lloegr. Pan welwyd nad oedd cynllun cyfatebol ar y ffordd yng Nghymru, ffurfiwyd clymblaid Iechyd Menywod Cymru gyda’r nod o edrych mewn dull cyfannol, gydol oes, ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl menywod. Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu i gefnogi gwaith y Glymblaid.
Darllenwch y stori newyddion yma.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad yn llawn.
Diweddaraf:
Y diweddaraf am Ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod a Merched GIG Cymru