Mae Niki, Samantha, a Karla, cydlynwyr EndoMarch Cymru a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) yn falch o gyhoeddi y bydd y digwyddiad EndoMarch Byd-eang yn dod i ddau leoliad yng Nghymru, am yr eildro yn olynol.
Ddydd Sadwrn 28ain Mawrth, i gyd-fynd â’n gorymdaith boblogaidd sydd eisoes ar y gweill yng Nghaerdydd, byddwn yn trefnu ail ddigwyddiad yn Yr Wyddgrug, yng Ngogledd Cymru!
Llandudno 2019!
Cofrestru: Os ydych chi’n ymuno â ni dylech gofrestru (am ddim) ar dudalen Eventbrite Yr Wyddgrug.
Dilynwch EndoMarch Yr Wyddgrug ar Facebook, Twitter ac Instagram i dderbyn diweddariadau.
Cofrestru: Os ydych chi’n ymuno â ni dylech gofrestru (am ddim) ar dudalen Eventbrite Caerdydd.
Dilynwch EndoMarch Caerdydd ar Facebook, Twitter ac Instagram i dderbyn diweddariadau.
Bydd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys lluniaeth gan gynnwys diodydd a thafell o deisen am ddim a fydd ar gael i bob unigolyn sy’n cymryd rhan.
Sylwer: Bydd cyfranogwyr yn gyfrifol am eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain. Mae pob amser a nodwyd yn fras amser.
Mae EndoMarch Byd-eang yn ddigwyddiad enfawr sy’n dod â miloedd o gefnogwyr o bedwar ban y byd ynghyd wrth i ni gerdded, hercian, neu wthio ein ffordd at roi’r llwyfan rhyngwladol y mae’n ei haeddu i’r clefyd hwn a gamddeallwyd.
Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o ENDOMETRIOSIS sy’n gyflwr poenus, sy’n cael effaith ar fywyd, ac sy’n haint sy’n gallu achosi poen difrifol, anffrwythlondeb, blinder cronig, a symptomau gwanychol eraill. Gan effeithio ar gynifer ag un ferch a menyw o bob deg yn fyd-eang, sy’n golygu ei fod yr un mor gyffredin â diabetes neu asthma, mae endo yn parhau i fod yn gyflwr dan lên o ddirgelwch a mythau.
Dyma’r pumed digwyddiad o’r fath yng Nghymru, yn sgil llwyddiant ysgubol y gorymdeithiau blaenorol yng Nghaerdydd, Abertawe, a Landudno, a’r seithfed yn rhyngwladol.
Os ydych chi’n bwriadu mynychu, a wnewch chi GOFRESTRU am le AM DDIM ar y dudalen Eventbrite berthnasol. Bydd hyn yn ein helpu i fod yn ymwybodol o’r niferoedd ar gyfer ein gorymdeithiau yng Nghymru, ac i ychwanegu at y cyfanswm Byd-eang.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno – a wnewch chi WISGO MELYN, sef lliw ymwybyddiaeth o endometriosis, i ddangos eich cefnogaeth!
Gallwch brynu hwdis a chrysau-T swyddogol Tîm Cymru yn mypersonalisedclothing.com
Dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau a lluniau o’r diwrnod. Cadwch lygad allan am #EndoMarchCymru, #EndoMarchWales, ac ymunwch â ni!
Trefnir digwyddiadau EndoMarch Cymru mewn partneriaeth ac o dan nawdd FTWW. Hoffem ddiolch i Gronfa Rosa ar gyfer Menywod a Merched am eu cefnogaeth barhaus. Fodd bynnag, mae angen eich cymorth CHI arnom o hyd i ddarparu cymorth ac adnoddau ar draws Cymru. Os hoffech wneud cyfraniad i sicrhau gwaith parhaus FTWW, yna dilynwch y ddolen hon. Diolch yn fawr iawn.