Endometriosis Cymru a teclyn adrodd am symptomau

Os ydych chi’n byw yng Nghymru a’ch bod wedi cael diagnosis o endometriosis, neu os oes gennych chi symptomau rydych chi’n amau mai endometriosis ydyn nhw, gall Endometriosis Cymru helpu. 

Mae gwefan endometriosis.cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu chi i reoli symptomau ac i lywio bywyd gyda’r cyflwr. Mae hefyd yn cynnig cyngor a theclynnau defnyddiol i rieni, gofalwyr, addysgwyr a chyflogwyr. Mae modd i unrhyw un ddefnyddio’r wybodaeth, yr adnoddau a’r teclynnau ar y wefan – does dim rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru!

Screenshot of the Endometriosis Cymru website

endometriosis.cymru

Prosiect cydweithredol yw Endometriosis Cymru, a gychwynnwyd yn 2019 gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru gyda Phrifysgol Caerdydd a Thriniaeth Deg i Fenywod Cymru [FTWW], gyda chefnogaeth yr asiantaeth dylunio gwe creadigol o Gymru, Proper Design.  Rydyn ni’n credu trwy ddarparu gwybodaeth ddibynadwy a hygyrch, y gallwn ni rymuso unigolion i reoli eu cyflwr yn well a gwella ansawdd eu bywyd.

Mae gwefan endometriosis.cymru yn gwbl ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, ac mae’n cynnig gwybodaeth am symptomau endometriosis a’r broses o gael diagnosis yng Nghymru, gyda gwybodaeth ychwanegol am y broses barhaus o reoli’r clefyd, teclynnau ac adnoddau, a chyfoeth o ganllawiau a dolenni at gymorth sydd ar gael.

Yn 2023, cafodd y prosiect gyllid gan Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru i ddatblygu’r wefan ymhellach, gan eu galluogi i greu mwy o adnoddau a gwella hygyrchedd gyda chymorth Anabledd Dysgu Cymru. Mae’r datblygiadau newydd yma’n cynnwys:

  • ehangu’r adran ‘byw gyda’ i gynnwys cyngor ymarferol am waith, addysg ac eiriolaeth.
  • fersiynau ‘hawdd eu darllen’ o’r wybodaeth bwysicaf a mwyaf perthnasol yn dilyn gwaith ymgynghori gydag Anabledd Dysgu Cymru, er mwyn sicrhau bod y wefan mor hygyrch â phosib i’r rhai sydd ag amhariadau ac anghenion amrywiol.
  • gwybodaeth am sut i gael mynediad at gymorth yng Nghymru, gan gynnwys diweddariad am y nyrsys endometriosis arbenigol.

Rydyn ni hefyd wedi datblygu teclyn adrodd am symptomau ar-lein newydd, i wneud trafod eich symptomau gyda’ch meddyg yn haws. Nod Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru yw helpu i leihau’r amser mae pobl yn aros i gael diagnosis am symptomau maen nhw’n amau mai symptomau endometriosis ydyn nhw. 

The Endometriosis Cymru Symptom Reporting Tool

Teclyn adrodd am symptomau

Mae’r teclyn hwylus yn gwbl ddwyieithog, ac mae’n galluogi defnyddwyr i dracio symptomau allweddol endometriosis dros sawl mis neu gylch mislif, i baratoi am sgwrs gyda’u meddyg.  Nid yw’n gofyn am bob symptom posib o endometriosis, ond mae’n edrych ar y nifer fach o symptomau sy’n aml yn gosod endometriosis ar wahân i gyflyrau eraill.    

Cafodd y teclyn ei gyd-ddylunio mewn ffordd unigryw gyda chleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, i’ch helpu i dracio symptomau a thriniaethau, a’u cyfleu nhw’n hawdd i’ch meddyg. Mae hyn yn wahanol i dracwyr eraill, sy’n aml wedi’u dylunio i gasglu gwybodaeth am lawer o symptomau.

Darparwyd cefnogaeth a chyllid ar gyfer y teclyn gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, a’r Cyngor Ymchwil Meddygol.

Rydyn ni’n gwahodd pobl yng Nghymru sy’n byw ag endometriosis tybiedig neu wedi’i gadarnhau, eu ffrindiau a’u teulu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac eiriolwyr, i fwrw golwg ar y wefan ac i ymuno yn y gwaith o sicrhau mwy o ymwybyddiaeth a chefnogaeth i’r rhai sy’n profi’r cyflwr heriol yma.